
Cadeirydd newydd y Bwrdd
Cyfle arweinyddiaeth uwch i helpu i siapio dyfodol economi Cymru
Mae Mentera yn recriwtio Cadeirydd Anweithredol newydd i arwain y Bwrdd drwy bennod nesaf datblygiad y sefydliad, wrth i gyfnod y Cadeirydd presennol ddod i ben. Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth arwyddocaol i ddarparu arweiniad strategol a goruchwyliaeth annibynnol ar adeg hynod gyffrous i Mentera.
Cyfnod ymgeisio ar agor nawr.
Am Mentera
Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Rydym yn cefnogi busnesau a chymunedau ledled Cymru i fentro a ffynnu, yn lleol ac yn fyd-eang.
Gyda throsiant blynyddol o tua £20 miliwn, mae Mentera yn cyflawni ystod o raglenni cymorth busnes sylweddol ar ran Llywodraeth Cymru ac eraill, ochr yn ochr â phortffolio cynyddol o wasanaethau masnachol.
Yn 2025, lansiodd Mentera enw a brand newydd, ynghyd â strategaeth uchelgeisiol hyd at 2030. Ein gweledigaeth yw economi lewyrchus i Gymru sy’n cael ei gyrru gan symudiad o fusnesau ffyniannus sy’n sefyll yn hyderus ochr yn ochr â’r gorau yn y byd.
Fel Menter a Busnes gynt, mae gan Mentera dros 35 mlynedd o brofiad, dros 160 o staff ledled Cymru, a hanes cryf o ddarparu gwasanaethau o safon uchel yn ddwyieithog.
Ffeithiau Allweddol
Ffeithiau Allweddol
- Penodiad gwirfoddol (gyda chostau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu)
- Tua pedwar cyfarfod Bwrdd y flwyddyn
- Cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ac wyneb yn wyneb ledled Cymru
- Tymor cychwynnol o dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ail dymor

Pam ystyried y rôl hon?
Pam ystyried y rôl hon?
- Cyfle i arwain sefydliad sefydledig a dylanwadol ar adeg allweddol
- Effaith strategol wirioneddol ar fusnesau, cymunedau ac economi Cymru
- Gweithio gyda Bwrdd ymrwymedig a thîm gweithredol profiadol
- Rôl sy’n cyfuno pwrpas, dylanwad ac arweinyddiaeth

Sut i ymgeisio?
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn ymgeiswyr, sy’n cynnwys:
- manylion llawn y rôl a’r cyfrifoldebau
- y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen
- gwybodaeth am y broses ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw:
17 Ebrill
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 4 Mai.
I drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: llyr.roberts@mentera.cymru
